POTEL GYMREIG GLAS TYWYLL
£19.95
38 in stock
Cadwch eich diodydd yn chwilboeth neu’n oeri’n berffaith drwy’r dydd.
Ein potel ddiodydd las tywyll (navy) oedd y prototeip gwreiddiol – ac rydym yn falch iawn o ddweud iddi wynebu heriau diwrnod ysgol yn hyderus a dod allan ar y brig! Cadarn, ymarferol ac unigryw, mae’r lliw navy yn ddewis dibynadwy i blant ac oedolion fel ei gilydd.
☀️ Oer am hyd at 24 awr
🔥 Poeth am hyd at 12 awr
5 lliw trawiadol i ddewis – dim cymysgu poteli yn y bore, ar y maes chwarae nac yn y gwaith.
✔ 750ml – perffaith ar gyfer y diwrnod cyfan
✔ Dur gwrthstaen o safon uchel gyda wal ddwbl
✔ Ysgafn ond hynod wydn
✔ Caead sgriw diogel sy’n atal gollyngiadau
✔ Dolen ymarferol ar gyfer cario’n hawdd
31cm o uchder | 6cm o ddiamedr
Golchwch â llaw yn unig. Mae’r dyluniad glas tywyll yn aros yn llachar ac yn gwneud datganiad cryf ble bynnag yr ewch.











