BANDANA CI CYMREIG

£10.00

Rhowch dipyn o swyn Cymreig i olwg eich ci gyda’n bandana hyfryd yma.

Gyda phatrwm Cymreig modern sy’n sefyll mas, mae’n berffaith i berchnogion sy’n falch o’u treftadaeth. Wedi’i wneud o bolyester meddal sy’n gallu anadlu, mae’n gyfforddus i’w wisgo drwy’r dydd.

Mae’r lliw llwyd ar gael mewn bach, canolig a mawr. Mae Macsen (yn y llun) yn gwisgo maint canolig. Mae’r lliwiau melyn, glas a phinc ar gael mewn bach iawn, bach a chanolig

Mae’n hawdd iawn i’w roi ymlaen – dim ond ei glymu o gwmpas y gwddf, a dyna ni. Mae’n aros yn ei le ac yn gyfforddus, ac mae’n gallu mynd yn y peiriant golchi hefyd, felly dim trafferth o gwbl.

Perffaith ar gyfer mynd i ŵyl neu jyst am dro bob dydd – mae’n siŵr o ddenu sylw a gwneud i gynffon eich ci siglo. Ffordd syml a steilus o ddangos bach o gariad at Gymru 🐾

Meintiau:

Bach iawnlled 37cm / hyd 25cm / uchder 18cm

Bachlled 47cm / hyd 34cm / uchder 24cm

Canoliglled 60cm / hyd 43cm / uchder 31cm

Mawr –  lled 87cm / hyd 57cm / uchder 45cm

 

 

 

 

 

SKU: N/A Category: